Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022
Amser:
09.30 -
12.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13028
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Carwyn Donovan, Broadcasting, Entertainment, Communications and Theatre Union (BECTU) Andy Warnock, Undeb y Cerddorion Simon Curtis, Equity Siân Gale, CULT Cymru Pauline Burt, Ffilm Cymru Gabriella Ricci, Stiwdios Bad Wolf Allison Dowzell, Screen Alliance Wales Richard Pring, Wales Interactive |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhun Davies (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau llafur a chynrychiolwyr gweithwyr
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Undeb y Cerddorion; Equity; yr Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatr (BECTU); a CULT Cymru (Undebau Creative Unions Learning Together).
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn, ac i ofyn unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd.
3 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau’r diwydiannau sgrin
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ffilm Cymru Wales; stiwdio Bad Wolf; Cynghrair Sgrin Cymru; a Wales Interactive.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch dyfodol Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad drafft a chytuno arno.
8 Trafod Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon
8.1 Trafododd y Pwyllgor y Cylch Gorchwyl drafft a chytuno arno.
9 Trafod gohebiaeth ddrafft
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytuno arni fel y’i drafftiwyd.